Wicipedia:Y Caffi
|
Croeso i'r Caffi Dyma'r lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol
|

Cwestiynau Cyffredin |
Y Ddesg Gyfeirio |
Cymorth iaith |
Negesfwrdd gweinyddiaeth |
Sgyrsiau cyfoes |
Archifau'r Caffi |
Ward etholiadol
[golygu cod]Dim ond i roi gwybod 'mod i wedi creu cofnod i Ward etholiadol ac felly gellir rhoi dolen fyw i'r holl gofnodion sy'n cynnwys hynny! Rwy wedi rhoi'r dolen fyw i sawl un ond mae cannoedd mae'n siŵr o gofnodion yn cynnwys y term yma. Jyst i'ch hatgoffa bod e ar gael os fyddwch chi'n creu cofnod newydd neu ychwanegu at un sy'n bodoli eisoes. Stefanik (sgwrs) 11:27, 31 Gorffennaf 2026 (UTC)
Digwyddiadau dros y haf
[golygu cod]Dw i jest wedi anfon mas y cylchlythyr ar gyfer Ebrill (tanysgrifio yma, neu weld y cylchlythyr yma). Mae Wici'r Holl Ddaear yn dechrau'n gynnar eleni felly am rheiny sy'n fyw ger Caerdydd bydd Meet Up briodol ar 17eg o Fai. Ym Mehefin mae gennym ni digwyddiad "Hanes Cwiar Cymreig a Wicipedia". Byddwn i wrth fy modd i gynnal rhywbeth rhywle arall yn Gymru felly ga i dynnu'ch sylw i'r rhan ynghylch grantiau ar gyfer gwirfoddolwyr? Er enghraifft, yn anffodus dw i ddim gallu mynd i'r Eisteddfod eleni ond byddai'n wrth fy modd i gefnogi rhywbeth Wici yno (neu ar gyrion y brifwyl). Mae llwyth o wyliau Cymreig gyda chyfleoedd ac wrth gwrs, llawer o syniadau gwych ar gyfer prosiectau ar Wicipedia. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 14:42, 9 Ebrill 2026 (UTC)
- Diolch am drefnu Gemma! Efallai y byddai cynnig costau yn help i godi'r niferoedd yng Nghaerdydd fory hefyd, fel ti'n awgrymu gyda Hanes yr Hoyw Cymreig a Wicipedia. Yn enwedig y dyddiau duon sydd o'n blaen oherwydd Trump a'i griw. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:03, 16 Ebrill 2026 (UTC)
- Sori - dw i ddim yn hollol siŵr os dw i wedi deall eich neges yn llwyr, felly os dw i wedi methu'r point isod, plîs dweud wrthyf i! I wneud fy ngorau i ymateb yn y cyfamser...
- Y peth bwysicach - i unrhyw un sy'n bwriadu dod, mae'r Meet up yn digwydd mis nesaf (Mai) nid yfory! Felly paid â throi fyny yfory, mae'r rhagolwg tywydd yn ofnadwy hefyd! (Well i aros gartref a golygu!)
- Yn ail - mae'r grantiau ar gyfer gwirfoddolwyr yn ar gael am bob math o ddigwyddiadau a syniadau am unrhyw beth perthnasol i Wici, nid jest digwyddiadau ynghylch materion LHDT+. Sori os oedd hwn ddim yn glir yn fy neges uchod!
- Mae modd i wneud cais am grant gwirfoddolwr i rhedeg Meet Up arbennig os bydd gwirfoddolwr sy'n awyddus i drefnu rhywbeth ac yn angen cyllid (e.e. mynediad i arddangosfa). Mae'r grantiau hyd at £250 ac fel arfer tua 2 neu 3 grantiau mewn blwyddyn yw'r terfyn. Felly dydyn nhw ddim rili ar gael ar gyfer Meet Ups traddodiadol ble mae grwpiau yn gwrdd bob mis, ond maen nhw'n opsiwn.
- Fel mae'n digwydd, ges i sgwrs gydag un o fy nghyd-weithiwr am y syniad o dalu am gostau teithio i ddigwyddiadau Wiki am rai sy'n eisiau mynychu (nid jest y trefnwyr). Mae eisoes yn bosib defnyddio rhan o grant gwirfoddolwr i wneud hynny (ond does dim modd 'da ni ar hyn o bryd i wneud hwn lle nad oes grant gwirfoddolwr). Ond byddaf ofyn yn ein cyfarfod nesaf. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 15:25, 16 Ebrill 2026 (UTC)
- Ie, mis i fory! Gyda 'byddai cynnig costau yn help' ro'n i'n golygu costau teithio, ie - i'r gwirfoddolwyr. Jyst meddwl y byddai nodi hynny'n ysgogi pobl i gymryd rhan. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:39, 16 Ebrill 2026 (UTC)
- Gobeithio bod pawb yn mwynhau'r haul! Ga i ofyn, os yw unrhyw un yn ystyried mynychu ein Meet Up yng Nghaerdydd ar 17eg Mai, plîs rhowch eich enwau ar y dudalen Meta neu anfon e-bost ataf (gemma.coleman at wikimedia.org.uk). Hoffwn wneud yn siŵr bod digon ohonom i'r digwyddiad mynd ymlaen ond ar yr ochr arall, dydw i ddim eisiau i bobl droi fyny heb wybod fy mod i wedi canslo achos doeddwn i ddim yn disgwyl nhw! Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 09:33, 9 Mai 2026 (UTC)
Trefn newydd yr Etholiad
[golygu cod]Gyda threfn newydd Etholiad y Senedd, mae angen ystyried y wybodlen. Ar en-wici, dim ond enw'r etholaeth sydd ganddyn nhw; syml, dim angen ei newid. Mi wnes i greu system o switsys er mwyn rhoi mwy o wybodaeth - enw'r AS a'i blaid e.e. gw. Comins Coch. Oherwydd y bydd 6 enw o hyn ymlaen (a 6 enw plaid), mae'n fwy cymhleth ond mae nifer y switsys yn mynd i fod yn llai (16 swits / etholaeth). Dyma'r opsiynau, hyd y gwela i: A. Rhoi enw'r Etholaeth newydd yn unig. B. Rhestru'r 6 AS. C. Y ddau
Sylwadau os gwelwch yn dda.
Byddai'n wych cael Categori i bob un o'r 16 etholaeth ar bob lle (pentre, tref, dinas) er mwyn i'r bot osod yr uchod yn daclus ee Categori:Llefydd o fewn Bangor Conwy Môn. Mae rhai'n hawdd e.e. Môn, ond eraill yn anos e.e. Sir Caerffili. Byddaf wedyn yn gafael mewn bats / categori a'i bastio yn y bot. Bydd yn rhaid cyfnewid yr hen gategoriau hefyd ar yr un pryd (Replace CatX gyda CatY). Byddai'n braf hyfforddi rhywun iau i ddefnyddio'r bot (Auto Wiki Browser) e.e. dros Zoom; 1 i 1. Dim gwaith codio! Rhowch wybod. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:11, 21 Ebrill 2026 (UTC)
- Da iawn ti am gychwyn ar hyn. Mae cael llawer o fanylion yn ardderchog, ond weithiau rydyn ni'n gwneud pethau sy'n anodd o ran cynnal a chadw. Felly mi fyddwn i o blaid opsiwn A. Mae llai o gyfle i bethau fynd o chwith.
- Gan fy mod i hyd yn oed yn hŷn na thi, fydda i ddim yn tanysgrifio i'r hyfforddiant... Craigysgafn (sgwrs) 11:17, 22 Ebrill 2026 (UTC)
- Baswn i o blaid opsiwn A hefyd ac am gadw pethau yn syml. Rhyswynne (sgwrs) 10:07, 5 Mai 2026 (UTC)
- Corff yr erthyglau
Mae Defnyddiwr:BOT-Twm Crys wedi cychwyn dileu'r paragraffau cyfan yng nghorff pob erthygl - pwy sy'n cynrychioli'r lleoliad yn Senedd Cymru a'r DU; gweler Bryngwyn, Ceredigion er enghraifft. Mae hyn yn dod a dyfnder cywici i lawr gryn dipyn, ond bid a fo am hynny! Y gwybodlenni a'r categoriau yn ystod y dyddiau nesaf! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:58, 5 Mai 2026 (UTC)
- Rhowch wybod os ydw i wedi methu un! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:10, 7 Mai 2026 (UTC)
- Yr etholaethau newydd
Mae angen symlhau sut mae'r wybodaeth yn cael ei gyflwyno yn yr erthygl Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru; dylai 2026 ddod yn gyntaf. Neu / a chreu erthygl newydd ar y ffiniau / etholaethau newydd. Oes rhywun am wirfoddoli? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:10, 7 Mai 2026 (UTC)
- Dw i'n falch o helpu bob amser. Ond bydd angen iti ddweud wrtha i mewn geiriau unsill beth hoffet ti ei wneud... Craigysgafn (sgwrs) 08:42, 7 Mai 2026 (UTC)
- Diolch! Beth am greu erthygl newydd: Etholaethau Senedd Cymru (Mai 2026 ymlaen)? Gelli gopio llawer o'r hyn sydd yn Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru#Cynigion diwygiedig (Rhagfyr 2024), gan gynnwys y tabl. Newid 'Cynigion diwygiedig' i Yr etholaethau terfynol (neu rhywbeth tebyg). Sorri, mae amser yn brin y dyddiau hyn. Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:02, 7 Mai 2026 (UTC)
- O'r gorau! Byddaf i'n rhoi cynnig arni! Craigysgafn (sgwrs) 20:19, 7 Mai 2026 (UTC)
- Y(r) wybodlen
Mi gychwynai efo'r symlaf: trefi. pentrefi a chymunedau yn newid o Ynys Môn i'r etholaeth newydd: Bangor Aberconwy Ynys Môn. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:10, 7 Mai 2026 (UTC)
- Newidiwyd Aberffraw. Unrhyw sylwadau, neu ymlaen? A beth am y DU? Trafodaeth ar hwn ar ddiwedd yr etholiad ogydd. Un cam ar y tro! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:39, 7 Mai 2026 (UTC)
- Oes hefyd wedyn newid y swits:
- aelod_cymru ={{Swits Ynys Môn i enw Aelod o'r Senedd}} ?Rhyswynne (sgwrs) 13:16, 7 Mai 2026 (UTC)
- Oes; disodli (replace ar AWB) yr hen gyda'r newydd e.e. fel hwn Diolch Rhys! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:02, 7 Mai 2026 (UTC)
- Dw i wedi gorffen y cyntaf o'r 16 etholaeth: Bangor Aberconwy Ynys Môn. Dw i'n siwr y bydd man bentrefi heb eu newid, a chroeso i chi wneud hynny, neu aros tan fod holl etholaethau Cymru wedi eu botio (!) ac yna chwynu ac ychwanegu. Diolch am eich hamynedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:59, 7 Mai 2026 (UTC)
- Gallwch weld yr etholaethau sydd wedi'u gwneud yma - Categori:Llefydd o fewn Etholaethau Senedd Cymru. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:57, 8 Mai 2026 (UTC)
Gwybodlen - mae dros hanner llefydd Cymru wedi'u diweddaru, gyda chategori (taclus!) sy'n golygu y bydd ganmil haws eu trin yn y dyfodol, os oes angen. Bydd y gweddill wedi'u gorffen erbyn dydd Mawrth / Mercher. Yn y cyfamser, dw i wedi cuddio'r wybodaeth o'r wybodlen. Llawer o waith da wedi'i wneud gan nifer o olygyddion ddoe ar erthyglau am yr etholiad - fantastig! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:59, 9 Mai 2026 (UTC)
- Wedi 8 mlynedd ar wici, mae pob swits / switch bellach wedi'u dileu a'r wybodaeth, sef enwau aelodau'r senedd ar tua 4,000 o erthyglau naill ai wedi diflannu neu wedi'i newid i'r etholaeth priodol (gw. uchod).
Cwblhawyd
- Mae angen twtio pob pentref, aneddle... i gynnwys categori'n nodi ym mha etholaeth y maent. O wneud hyn, bydd hi gan-mil haws newid y wybodaeth yn y dyfodol. Top tip: defnyddiwch AWB i ychwanegu / newid categoriau ar lawer o erthyglau hy torfoli gydag un clic dwsinau o erthyglau. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:11, 3 Mehefin 2026 (UTC)
Digwyddiadau Mehefin a Gorffennaf
[golygu cod]Dw i wedi cael “flurry” bach o bobol sy’n eisiau i fi i roi gwybod i Wicipedwyr Cymraeg am eu digwyddiadau.
- Ar Ddydd Sadwrn bydd golygathon ar-lein gan Gymraes hyfryd (Ceryl) i wella cynnwys ynghylch menywod y Tŵr Eiffel. Felly os dwyt ti ddim yn mynd i Tafwyl, (neu eisiau gwneud tamaid bach o Wiki cyn mynd mas) dw i’n siŵr byddai hi wrth ei bodd i weld Wicipedwyr Cymraeg yna - manylion llawn at https://www.eventbrite.co.uk/e/women-of-the-eiffel-tower-edit-a-thon-tickets-1990315293621?aff=oddtdtcreator
- Mae'r sesiynau Blwch Tywod Cymunedol yn cychwyn yn ôl ar y 15fed o Orffennaf, gyda'r un cyntaf yn sôn am gyfieithu erthyglau - https://meta.wikimedia.org/wiki/Event:WMUK_Sandbox_Sessions/Hints_and_tips_on_the_translation_of_articles_15.07.26
(Hefyd, peidiwch ag anghofio bod Wici'r Holl Ddaear yn dod i ben yn gynnar eleni felly dim ond tan y 30ain o Fehefin sydd gennych i uwchlwytho eich delweddau.) Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 15:54, 17 Mehefin 2026 (UTC)
- Anghofiais ddweud, dyma'r tasgau sydd ar ôl ar ôl ein digwyddiad "Hanes LHDT+ Cymreig" yr wythnos diwethaf os oes gan unrhyw un yma ddiddordeb mewn mynd i'r afael â rhai ohonyn nhw! Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 10:48, 23 Mehefin 2026 (UTC)
- Sori, un peth olaf! Mae rhai ohonoch chi wedi sôn y byddai'n braf i gwrdd â golygyddion eraill sy'n siarad Cymraeg, felly roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n gweld a allwn i drefnu "Meet Up" Cymraeg ar-lein ym mis Gorffennaf. Os oes diddordeb, plîs nodwch eich argaeledd yn y pôl. Os gallaf gael 5 ohonom at ein gilydd ar unrhyw un o'r adegau hynny, byddaf yn mynd ymlaen, os na, byddaf yn ceisio eto yn yr hydref. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 10:00, 24 Mehefin 2026 (UTC)
- Dw i ddim ar gael yr wythnos yna'n anffodus, ond baswn i'n gwerthfawrogi cyfle i sgwrsio tro nesa! R Llygad Ebrill (sgwrs) 14:10, 24 Mehefin 2026 (UTC)
Cyfarfod-byw 23ain Gorffennaf 11yb - 12yh ar-lein
[golygu cod]Rydym wedi llwyddo i ddod o hyd amser sy'n siwtio 5 ohonom felly cynhelir ein "Meet Up yn y Gymraeg" ar 23ain Gorffennaf rhwng 11yb i 12yh. E-bostio fi i gael gwahoddiad Google neu'r ddolen i ymuno yw https://meet.google.com/ina-tpmz-vmx?authuser=0&hs=122 Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 15:58, 6 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Dwi'm ond newydd ddechrau cyfrannu at Wici. Oes croeso i unrhywun ymuno â'r sgwrs neu yw e'n rywbeth ar gyfer defnyddwyr mwy profiadol? Carlwm (sgwrs) 16:04, 7 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Oes - mae croeso mawr i bawb sy'n golygu Wici! Bydd yn hyfryd i gwrdd â chi :) Hefyd, yn ddelfrydol byddwn ni'n yn cael cymysgwch o olygyddion, rhai newydd, rhai profiadol a rhai sydd ddim wedi golygu am sbel. Mae fy nghyfeiriad e-bost yw gemma.coleman@wikimedia.org.uk os hoffech chi gael gwahoddiad calendr drwy Google. Ac unrhyw gwestiynau, gofyn yma neu anfon e-bost ataf. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 16:34, 7 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Diolch Gemma! Fe wnai fy ngorau i ymuno. Carlwm (sgwrs) 19:52, 7 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Oes - mae croeso mawr i bawb sy'n golygu Wici! Bydd yn hyfryd i gwrdd â chi :) Hefyd, yn ddelfrydol byddwn ni'n yn cael cymysgwch o olygyddion, rhai newydd, rhai profiadol a rhai sydd ddim wedi golygu am sbel. Mae fy nghyfeiriad e-bost yw gemma.coleman@wikimedia.org.uk os hoffech chi gael gwahoddiad calendr drwy Google. Ac unrhyw gwestiynau, gofyn yma neu anfon e-bost ataf. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 16:34, 7 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Dyma'r "agenda" awgrymedig ar gyfer y Meet Up Ddydd Iau am rheiny sy'n hoffi cael rhyw fath o syniad beth i ddisgwyl. (Fodd bynnag, ar y diwrnod byddaf yn hyblyg dibynnu ar y dymuniadau o rheiny sy'n mynychu.) Gallaf anfon gwahoddiad Google i unrhyw un sy'n moyn un, neu weler uchod am y ddolen i ymuno.
- 11 - 11.15 - cyflwyniadau (enw, beth ydych chi'n hoffi gwneud ar Wici, pa mor hir ydych wedi bod yn olygydd)
- 11.15 - 11.30 - lle i drafod syniadau wedi'u rhannu gyda Gemma yn barod - unrhyw ddiddordeb i gymryd rhan? (parti pen-blwydd, diweddaru'r tudalennau tiwtorial, creu prosiect i wella erthyglau perthnasol i'r cwricwlwm)
- 11.30 - 11.50
- - lle agored i olygyddion rhannu syniadau, digwyddiadau, gofyn am help a.y.b.
- 11.50 - 12 lle am "AOB" neu adborth am beth oedd yn ddefnyddiol a beth fyddai'n ddefnyddiol y tro nesaf Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 10:47, 21 Gorffennaf 2026 (UTC)
Erthygl ddwbl?
[golygu cod]Helo pawb. Dwi'n credu bod y'r erthyglau isod yn gyfeirio at yr un lle, ond eisiau sieco cyn uno nhw. Ydy pawb yn cytuno?
Jason.nlw (sgwrs) 15:33, 7 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Cytuno mai'r un lle sydd dan sylw. Dw i'n meddwl mai Bwlch Llyn Bach yw'r enw cywir (gw https://eryri.llyw.cymru/llwybrau/cefnen-waen-oer/ er enghraifft), ond awgrymu cadw ..."neu Fwlch Tal y Llyn" yn y frawddeg gynta Llygad Ebrill (sgwrs) 23:18, 14 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Cytuno; ail-gyfeiriwyd.
Llywelyn2000 (sgwrs) 05:59, 22 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Cytuno; ail-gyfeiriwyd.
Dolenni marw ar erthyglau natur
[golygu cod]Mae llwyth o erthyglau byr ar rywogaethau planhigion ac anifeiliaid, a phob un yn anffodus â dolen farw yn dilyn y patrwm:
Mae'r ddolen "http://www.llennatur.com/Drupal7/llennatur/?q=node/6" yn arwain at dudalen 404 farw. Enghraifft ar hap: Isosticta tillyardi.
Dylid o leiaf arallgyfeirio at https://llennatur.cymru/y-bywiadur, ac yn ddelfrydol gwirio bod cofnod cyfatebol yn y Bywiadur (nid yw'r tillyardi yn y Bywiadur er enghraifft). Dwi wedi trwsio rhai â llaw, ond mae cannoedd os nad miloedd o erthyglau tebyg! Oes na ryw fot neu declyn allai wneud "find and replace" ar y ddolen farw? Carlwm (sgwrs) 21:41, 14 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Diolch @Carlwm: Fi wnaeth y cod gwreiddiol a'u rhoi i Sian E J a Chell Danwydd i'w cyhoeddi, mae'r ddau bellach wedi ymdeeol o wici (a finau'n rhanol), ond mae'n ymddangos fod Dewi Jones oedd yn gyfrifol am god Llen Natur wedi symud y wefan o hen drefn Drupal (mae wedi dropio drupal!). Gen i mae'r unig fot cynhenid i cy-wici, sef Defnyddiwr:BOT-Twm Crys. Byddai'n gret pe bai rhywun arall yn meithrin y sgiliau angenrheidiol a gwneud cais yma ar y caffi i redeg bot arall.
- Felly, gallaf newid
- http://www.llennatur.com/Drupal7/llennatur/?q=node/6
- a https://llennatur.cymru/Y-Bywiadur
- [ac unrhyw fersiwn arall, tebyg?]
- i:
- www.llennatur.cymru/y-bywiadur
- Awgrymaf ddileu'r https://. @Dafyddt: be ti'n feddwl?
- Ar yr un pryd, gallaf ddileu: {{Dolen marw|date=June 2026 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }} yn llwyr.
- bydd hyn yn parchu enw'r erthygl ar wici / yr enw ar y Bywiadur, ac felly'r ddolen. Os nad oes cyfeiriad ar y Bywiadur (e.e. tillyardi), dw i ddim yn siwr be fedrwn ei wneud. Enwau Lladin fydd y rhain, efallai y medraf eu canfod wrth gynaeafu enwau'r erthyglau gyda'r bot. Os nad, yn bersononol dw i ddim yn meddwl ei fod yn broblem fawr. bydd y ddolen yn arwain at wefan y Bywiadur ac yn nodi nad oes cyfeiriad / cofnod am y gair hwnnw.
- Be ti'n feddwl Carlwm? Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 14:00, 22 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Diolch yn fawr @Llywelyn2000. Cytuno nad yw hi'n ormod o broblem petai'r enwau Lladin di-gofnod yn arwain at y Bywiadur hefyd. Y peth pwysig yw codi'r ddolen o farw'n fyw. Pob hwyl i'r BOT yn ei waith!
- Mae gen i rywfaint o sgiliau sgwennu côd felly base gen i ddiddordeb dysgu mwy am gynnal a chadw botiau. Af i ymchwilio ymhellach... Carlwm (sgwrs) 16:46, 22 Gorffennaf 2026 (UTC)
Cymorth technegol
[golygu cod]Dw i wedi gofyn am help yma. Dw i wedi ceisio dilyn yr ateb, ond oeddwn i ddim wir yn deall beth i'w wneud. Oes unrhywyn yn gallu helpu? Deb (sgwrs) 13:45, 24 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Ydy'r broblem yn dal i ddigwydd, Deb? Carlwm (sgwrs) 22:34, 25 Gorffennaf 2026 (UTC)
Ydych chi'n gwybod?
[golygu cod]Helo, hoff gydweithwyr,
Yr wyf yn gwirfoddolwr newydd sydd wedi bod yn darllen Wicipedia ers tro, ac rwyf wedi sylwi nad oes gan yr adran Gymraeg adran “Ydych chi'n gwybod?” ar y dudalen flaen. Mewn llawer o ieithoedd eraill, mae hyn yn un o'r rhesymau mwyaf i bobl glicio ar erthyglau, darllen mwy, a darganfod pethau newydd.
Hoffwn awgrymu sefydlu “Ydych chi'n gwybod?” yma – yn syml ar y dechrau, heb fod angen robotiaid na pholisïau cymhleth. Byddai’n gweithio fel hyn:
- Rydym yn creu tudalen baratoi (ee Wicipedia:Ydych chi'n gwybod/Paratoi) lle gall pawb awgrymu ffeithiau diddorol, yn ddelfrydol o erthyglau sydd newydd eu creu neu wedi'u diweddaru.
- Rydym yn dewis y ffeithiau mwyaf diddorol a'u rhoi mewn blwch ar y dudalen flaen (er enghraifft, 12 ffaith, newid bob pythefnos).
- Dylai ffeithiau fod yn annisgwyl, yn gyferbyniol, neu’n absẃrd – fel hyn: “Gall crocodeil achosi damwain awyr.” (Mae hyn yn ffaith go iawn, gyda ffynhonnell – ac yn gwneud i chi eisiau clicio i ddarllen mwy!)
Nid wyf yn gofyn am unrhyw beth cymhleth: mae gennyf amser ac awydd i helpu gyda chyfieithiadau, awgrymiadau a chynnal y dudalen. Byddai’r rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud gan y gymuned leol, wrth gwrs, ond rwy’n gallu bod yn gymorth cychwynnol.
Hoffem wybod a yw hyn yn rhywbeth y byddai gennych ddiddordeb ynddo? Byddai unrhyw awgrymiadau neu sylwadau yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
Diolch am ddarllen, Spedbird (sgwrs) 20:47, 24 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Mae'n swnio fel syniad da i mi o leiaf, @Spedbird. Byddwn i'n cynnig falle dechrau gyda llai o ffeithiau (6 bob mis?) gan fod nifer y golygyddion rheolaidd yn ymddangos yn weddol isel, a digon posib na fyddai gan bawb amser i weithio ar ffeithiau newydd. Dwi'n go newydd fan hyn hefyd, ond dyna'r teimlad dwi'n ei gael. Carlwm (sgwrs) 21:15, 24 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Llongyfarchiadau i ti ar dy frwdfrydedd, Spedbird! Dw i'n edrych ymlaen at dy gyfraniadau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud bod yr adran "Did you know?" o enwiki yn ei ffurf bresennol yn rhywbeth rwy'n ei gasáu'n llwyr. Fel arfer, dw i wrth fy modd â trivia, ond mae'r adran honno'n llawn pethau sy'n anniddorol, neu'n amlwg, neu'n ddi-chwaeth. Efallai y gallen ni wneud y peth yn well yma ar cywiki, ond byddai'n gofyn am lawer o ymdrech. --Craigysgafn (sgwrs) 22:26, 24 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Dwi'n falch bod y syniad wedi apelio atoch chi, @Carlwm @Craigysgafn. Rwyf wedi creu prif dudalen y prosiect yma: Wicipedia:Ydych chi'n gwybod. Mae croeso i bawb ei gwella a'i ddatblygu ymhellach. Yn fuan, byddaf yn creu tudalen baratoi ar gyfer awgrymiadau ac yn cyfieithu ychydig o erthyglau i gychwyn y casgliad. Hefyd, hoffwn wybod pwy ddylwn i gysylltu â nhw i drafod gosod y blwch "Ydych chi'n gwybod?" ar y dudalen flaen pan fydd popeth yn barod? Diolch am y gefnogaeth! Spedbird (sgwrs) 06:40, 25 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Yn lle cyfieithu erthyglau, beth am ddefnyddio rhai sydd gyda ni'n barod? Mae llawer o waith yn cael ei wneud yma i ysgrifennu erthyglau newydd yn Gymraeg sy'n cynnig rhyw bersbectif gwahanol i beth sydd ar en-wiki. Beth am...
- - ...cafodd y wefan Gymraeg gyntaf ei lawnsio ym 1995?
- - ...fod Seintiau Aberdyfi, cŵn duon Dinbych a merlod Hafnant yn fathau o gwmwl?
- - ...fod pobl yn yr Oesoedd Canol yn llyncu perlau er mwyn trin salwch?
- - ...taw yn Llanystumdwy oedd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru, a bod y pentrefwyr wedi ceisio eu taflu mewn i'r afon?
- - ... mai "Gwenwyn" gan Alffa oedd y gân Gymraeg gyntaf i gyrraedd 1 miliwn ffrwd ar Spotify?
- Gyda llaw, dwi'n cytuno i raddau â @Craigysgafn fod y ffeithiau ar en-wiki yn gallu bod braidd yn ddi-chwaeth. Baswn i'n rhoi'r crocodeil yn y categori hwnnw yn anffodus (bu farw 20 o bobl, ddim yn hir iawn yn ôl). Carlwm (sgwrs) 10:36, 25 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Diolch am y syniadau ardderchog, Carlwm! Mae dy awgrymiadau di'n wych, yn enwedig y rhai am y cymylau, y perlau, a phrotest y Swffragetiaid yn Llanystumdwy - mae'r rhain yn union y math o ffeithiau annisgwyl sy'n gweithio orau yn yr adran hon. O ran y crocodeil - dwi'n deall y pryder, ond mae ffaith am grocodeil yn achosi damwain awyr yn dal i fod yn rhyfeddol o annisgwyl a chyferbyniol. Yn fy mhrofiad i, mae ffeithiau o'r fath yn aml yn denu sylw darllenwyr, hyd yn oed os yw'r pwnc yn drist. Mae'r dudalen baratoi bellach ar gael yma: Wicipedia:Ydych chi'n gwybod/Paratoi. Byddai'n wych pe gallech chi ychwanegu'ch awgrymiadau yno - ychydig o ffeithiau da fydd yn dechrau'r casgliad yn wych! Spedbird (sgwrs) 10:51, 25 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Iawn @Spedbird, mi wna i ychwanegu cwpl o syniadau toc, ac fe gewn ni weld os oes diddordeb gan unrhywun arall.
- Sut mae dewis y ffeithiau wedyn? Byddai'n dda cael o leiaf un person arall i "eilio" ffaith (a hawl i bobl "wrthwynebu" hefyd mae'n siŵr! Os oes anghytuno, byddai angen mwy o "eilwyr" na "gwrthwynebwyr"). Oes gen ti syniad yn barod am sut i wneud? Carlwm (sgwrs) 22:53, 26 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Mae'n ddrwg gen i am yr oedi cyn ateb. Mae'n ymddangos bod rhaid aros nes bod mwy o gyfranogwyr yn dangos diddordeb yn y prosiect cyn y gellir datrys y mater hwn. Yn anffodus, mae gen i lwyth o bethau i'w gwneud ar hyn o bryd, felly fydd dim cyfle i mi gydlynu'r prosiect yn y dyddiau nesaf, mae'n ddrwg gen i. Spedbird (sgwrs) 10:29, 28 Gorffennaf 2026 (UTC)
- Diolch am y syniadau ardderchog, Carlwm! Mae dy awgrymiadau di'n wych, yn enwedig y rhai am y cymylau, y perlau, a phrotest y Swffragetiaid yn Llanystumdwy - mae'r rhain yn union y math o ffeithiau annisgwyl sy'n gweithio orau yn yr adran hon. O ran y crocodeil - dwi'n deall y pryder, ond mae ffaith am grocodeil yn achosi damwain awyr yn dal i fod yn rhyfeddol o annisgwyl a chyferbyniol. Yn fy mhrofiad i, mae ffeithiau o'r fath yn aml yn denu sylw darllenwyr, hyd yn oed os yw'r pwnc yn drist. Mae'r dudalen baratoi bellach ar gael yma: Wicipedia:Ydych chi'n gwybod/Paratoi. Byddai'n wych pe gallech chi ychwanegu'ch awgrymiadau yno - ychydig o ffeithiau da fydd yn dechrau'r casgliad yn wych! Spedbird (sgwrs) 10:51, 25 Gorffennaf 2026 (UTC)
Golygiadau diweddar gan ddefnyddiwr anhysbys
[golygu cod]Mae defnyddiwr anhysbys yn gwneud golygiadau braidd yn anarferol ers echddoe: bathu enwau 'Cymraeg' ar gyfer llefydd ar hap gan ddisodli'r Saesneg arferol (e.e. "Caerwerth" am Fort Worth, Texas), troi Cymraeg safonol yn or-hen-ffasiwn (e.e. "Canys ddatganoledig yw iechyd" am "Gan fod iechyd wedi'i ddatganoli" ar Rhestr o fideos gan Lywodraeth Cymru am Covid-19), a chyfieithiadau sy'n gamddealltwriaeth llwyr (e.e. "Gweithfeydd tân" am Tân gwyllt). Mae'r rhestr lawn fan hyn.
Rwy'n gwrthdroi'r golygiadau sy'n amharu ar synnwyr yr erthygl, ac yn gweld fod eraill yn gwrthdroi hefyd, ond mae golygiadau tebyg yn dal i ymddangos. Tebyg iawn fod y defnyddiwr yn ceisio helpu! Falle gallai ymateb yma i ddechrau sgwrs? Piti iddo/i hala amser yn gwneud golygiadau sy'n cael eu dadwneud.
O.N. fel defnyddiwr newydd fy hunan, dwi'n ansicr o'r etiquette fan hyn - os nad yw hyn yn bwnc addas i'r Caffi mi wnai ddileu. Carlwm (sgwrs) 15:13, 28 Gorffennaf 2026 (UTC)
- I ddechrau: diolch am dy gyfraniad amhrisiadwy, Carlwm! Fyddwn i ddim yn petruso cyn gwrthdroi'r holl bethau hyn. O bryd i'w gilydd mae gennym ni ddefnyddiwr anhysbys sy'n "cyfieithu" enwau lleoedd Saesneg i'r Gymraeg. P'un a yw hyn o ddryswch neu mewn ysbryd o ddrygioni, alla i ddim dyfalu. Weithiau mae defnyddiwr anhysbys yn gwneud newidiadau defnyddiol, ond dylet ti bob amser fod yn amheus os gwneir y rhain heb esboniad. Diolch am y rhestr. Byddaf i'n eu trwsio. Hwyl, Dafydd. Craigysgafn (sgwrs) 16:24, 28 Gorffennaf 2026 (UTC)
A message from Llydaw
[golygu cod]Hello and sorry for writing in English,
A former user of the Breton wikis, now blocked indefinitely, who went by Bianchi-Bihan and many other usernames, is contributing to the Welsh Wiktionary using temporary accounts and the account Dynolydaw (no ChekUser was performed but he has his very own style). I am posting here because I don’t see much activity there besides his, and no admins. The issue is that the quality of his contributions is rather poor : some pages are clearly not proofread (see e.g. wikt:sac'h and wikt:sac'h-kousket with no closing parentheses), wikt:kemm with an example in Welsh for a Breton word, etc. FYI he made a total mess (much worse than these examples) of the Breton Wiktionary, which is currently being cleaned up, and he seems to have found a new home in the Welsh Wiktionary. I am leaving it up to you to decide what do to, or not to do. Have a nice day. Huñvreüs (sgwrs) 16:21, 5 Awst 2026 (UTC)
Colfran neu ceuled?
[golygu cod]Helo, wedi sgwennu cofnod am "Colfran" https://cy.wikipedia.org/wiki/Colfran Y drwg yw bod y gair "ceuled" yn dod lan yn amlach na "colfran" ar gyfer 'curd' yn Gymraeg. Dwi'n hapus iawn i gael fy nghywiro. Dydy ddim yn glir i mi (wrth edrych ar y gwahanol eiriaduron a therminaduron) pa un sy' gywir, er bod ceuled yn fwy poblogaidd. Dydy ddim yn glir chwaith os yw colfran/ceuled hefyd yn golygu 'rennet' yn Gymraeg. Hapus i eraill fy nghywiro neu gywiro/newid yr erthygl. Cofnod aeth yn fwy cymleth nag oeddwn i'n ddisgwyl! Dyna ddysgu gwers.Stefanik (sgwrs) 16:14, 11 Awst 2026 (UTC)
- Ia, mae'n rhwystredig pan mae mwy nag un gair am yr un peth yn cael ei gynnig, ac yn yr un modd pan mae un gair yn cael ei gynnig am sawl peth gwahanol! Newydd edrych ar BydTerm y Llywodraeth, ac mae'r tri canlynol yn cael stats B (A - pendant, B - gweddol saff, C - bach yn dodji): curd (o laeth) = colfran; rennet = cywair llaeth; a bean curd (tofu) = ceuled ffa. Rhyswynne (sgwrs) 08:51, 12 Awst 2026 (UTC)
Dwy erthygl am yr un person - Hawystl a Tangwystl ?
[golygu cod]Newydd sylwi bod rhywun wedi gosod dolen ar erthygl Tangwystl at Hawystl, ond ymddengys mai yr un person oedden nhw. Rhyswynne (sgwrs) 09:11, 13 Awst 2026 (UTC)
- Nid dyma fy maes arbenigedd mewn gwirionedd. Ond mae'r rhain yn edrych fel dwy fenyw wahanol. Tybed, serch hynny, a oes camgymeriad yn llinell gyntaf Hawystl. Mae Peter Bartrum[1] yn cyfeirio at yr enw Hawystl: "The name seems to have taken the place of Tudwystl". Felly efallai mai teipo ar gyfer Tudwystl yw Tangwystl. Craigysgafn (sgwrs) 22:00, 13 Awst 2026 (UTC)
- Rhyswynne Beth yw dy ddadleuon dros dy farn 'yr ymddengys mai yr un person ydyn nhw'? Mae esboniad am hyn ar waelod yr erthygl ar Hawystl:
- Mae'n ymddangos fel santes yn "Caer Hawystl" ac fel merch i Frychan ym Mheniarth MS.127; tud.52. Copiwyd y wybodaeth yma i lawysgrifau eraill, a dyma achos ychydig rhagor o ddryswch amdani.
- Onid oes gen ti resymau gwahanol i'r uchod, dadleuon newydd, dw i'n cytuno efo Craigysgafn fod yma ddau berson gwahanol. Robin - Llywelyn2000 (sgwrs) 06:59, 17 Awst 2026 (UTC)
- Mae'n ddrwg gen i, rhoddais ddolen at yr erthygl anghywir - Tangwystl ach Brychan roedd gen i mewn golwg. Does gen i ddim arbennigedd yn y maes, ond sylwais ar olygiad i'r erthygl ar 12 Awst, ble ychwanegwyd dolen at yr erthygl am Hawystl o dan y pennawd 'Gweler hefyd', a dyna wnaeth i mi feddwl mai'r un person ydy'r ddwy.
- Mae erthyl Hwyastl yn dechrau efo:
- Tra bod erthygl Tangwystl ach Brychan yn dechrau efo:
- Santes o'r 5g oedd Tangwystl a oedd yn un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.
- O weld bod y ddwy o'r un cyfnod ac yn ferched i Brychan, dyma wnaeth imi feddwl bod rhywbeth o'i le. Rhyswynne (sgwrs) 11:36, 17 Awst 2026 (UTC)
=====
- ↑ Peter C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Nam ar y dempled Person
[golygu cod]Oes rhywun arall yn cael trafferth gyda'r templed "Person" yn ddiweddar? Mae i weld, o'n rhan i, yn gwrthod lanlwytho'r wybodaeth o Wicidata, dim ond yr enw a dim gwybodaeth. Oes posib gwiro hyn, os gwelwch yn dda? Ar hyn o bryd, dwi'n gorfod copïo'r côd o dudalennau arall, wedi i @Rhyswynne fy nghynorthwyo yn gynharach yn yr wythnos. Diolch Paulpesda (sgwrs) 11:09, 28 Awst 2026 (UTC)
- @Paulpesda: Tybed a wyt ti'n defnyddio'r fields (??meysydd) cywir yn y templed? Er enghraifft, yn Alan Harris (dramodydd) wnest ti ddefnyddio "birth_name", "birth_date" a "birth_place" nad oeddwn erioed wedi'u hangen. Dyma'r fersion y wybodlen rydw i'n ei dyfnyddio:
- {{Person| fetchwikidata=ALL| onlysourced=no| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth| dateformat = dmy}}
- Dw i'n meddwl bod hynny'n gwneud y gwaith ar y dudalen honno. (Efallai mai'r "fetchwikidata" sy'n cyflenwi'r secret sauce.) Y cyfan sydd angen iti ei wneud yw ychwanegu'r "image". Hwyl, Dafydd Craigysgafn (sgwrs) 12:34, 28 Awst 2026 (UTC)
- Haia Paul, a diolch i ti am dy holl waith ar wici dros y Gymraeg! Arbennig! Cofia mai tynu llif o Wicidata mae'r wybodlen 'Person'. Mae yna gyfarwyddyd sut i'w defnyddio ar y wybodlen yn fama: Nodyn:Person sy'n egluro hyn, a beth i'w gopio a phastio. MaeCraigysgafn yn nodi hefyd, uchod.
- OND, ni all y wybodlen dynnu'r wybodaeth o Wicidata os nad yw'r wybodaeth yno! Er enghraifft, does dim gwybodaeth ar Wicidata ar Einion ap Ifor, felly wneith o ddim gweithio! Ac fel y nodwyd - mae angen mwy na'r gair 'Person' rhwng gwefusau dwbwl. Felly:
- 1. Copia'r cod mae Craig / y templad yn ei awgrymu, a'i gadw.
- 2. Tro i Wicidata a chreu eitem newydd (4ydd o'r top yn y ddewislen ar y chwith)
- 3. Yn y blwch 'Label' rho enw'r dyn, 'Einion ap Ifor'.
- 4. Dos i lawr y ffenest yma at 'Disgrifiad', a rho 'un o uwch-filwyr Cymraeg Llywelyn II'
- 5. Clicia ar 'Creu'. A dyna ti wedi creu eitem newydd ar Wicidata! Rwan ta...
- 6. Agor dudalen arall o Wicidata' a theipia eitem debyg ee 'Llywelyn ap Gruffudd'. Edrych pa fynegiadau sydd iddo a defnyddia rhai o'r rhain ar dy eitem newydd e.e.
- 7. Y cyntaf yw 'enghraifft o'r canlynol' - ychwanega 'bod dynol', yna dos i'r nesa 'rhyw' ac ychwanega 'gwrywaidd' ayb ayb...
- Wedi i ti ychwanegu'r wybodaeth yma ar Einion, bydd ar gael i greu graffiau, mapiau pwy-sy'n-perthyn, Wicipedia ayb. Da ni wedi creu miloedd o'r rhain ac mae nhw'n cyfoethogi'r Gymraeg yn fawr.
- Pob hwyl arni. tyrd nol ar fy nhudalen Sgwrs os nad oes rhywbeth yn glir gen i. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:43, 28 Awst 2026 (UTC)
Wici Henebion
[golygu cod]Nodyn bach i atgoffa pawb am Wici Henebion sy'n rhedeg tan 30ain o Fedi. Byddai'n hyfryd cael cynrychiolaeth gref o henebion Cymreig!
Gallwch gymryd rhan drwy gwefan y gystadleuaeth neu'r drwy defnyddio’r dewin uwchlwytho ar y dudalen “participating countries”, neu, gallwch edrych ar y delweddau Cymreig 2025 ac ychwanegu nhw i erthyglau, eitemau Wicidata ac ati. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 10:15, 8 Medi 2026 (UTC)
Sut y dylem ymateb i'r cais hwn i ddileu erthygl
[golygu cod]'SYLWER Rwyf wedi trosglwyddo'r sgwrs hon o Wicipedia:Y Caffi/archif/29 yn ol i'r Caff, gan i olygydd roi sylw yno yn yr Archif. Er nad oes gennym bolisi ar olygu materion yn yr Archif (hyd y gwn i), yn y gorffennol rydym wedi trosglwyddo'r Sgwrs yn ol i'r Caffi, fel hyn. Gallem drafod greu polisi mewn man arall, os dymunwch. Diolch i Rhys am leisio ei bryderon. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:30, 13 Medi 2026 (UTC)
Gweler Sgwrs:Connor Morgans. Mae yna fater o bolisi yma. Ddylen ni ddileu erthygl oherwydd nad yw'r pwnc yn ei hoffi? Craigysgafn (sgwrs) 21:35, 12 Chwefror 2025 (UTC)
- Wela i'r un rheswm dros ddileu'r erthygl. Mae'r ffaith bod erthygl en: wedi ei dileu yn gwbl amherthnasol. Os nad yw'r unigolyn dan sylw yn hoffi'r erthygl, dylen ni geisio sicrhau mai dim ond gwybodaeth berthnasol sy yn y parth cyhoeddus sydd i'w gweld - ond fe fyddai dileu'r erthygl yn gosod cynsail peryglus. Llygad Ebrill (sgwrs) 14:11, 13 Chwefror 2025 (UTC)
- Mae'n werth ystyried yr hawliau o dan ddeddf GDPR (canllaw ICO). Nid yw'r hawl i anghofio yn gymwys ar gyfer ".. exercise the right of freedom of expression and information;". Mae'r erthygl ei hun yn llawn cyfeiriadau da ac amrywiol, felly mae'r wybodaeth i gyd yn gyhoeddus mewn llefydd eraill, ac wedi ei gynnig gan yr unigolyn fel rhan o gyhoeddusrwydd. Mae dyddiad ei ben-blwydd wedi ei gyhoeddi ar Instagram. Mae yna drafodaethau eitha helaeth am hyn a'r effaith ar Wikipedia nôl yn 2014 ond mae'n bosib bod pethau wedi symud ymlaen ers hynny. Rhaid ychwanegu yr ymwadiad arferol - Nid Wyf Yn Gyfreithiwr. Dafyddt (sgwrs) 23:13, 13 Chwefror 2025 (UTC)
- Hoffwn i jyst cytuno efo'r dadlau dros cadw'r erthygl yma. Dw'i methu gweld unrhyw rheswn i dileu. Jason.nlw (sgwrs) 10:13, 17 Chwefror 2025 (UTC)
- Cefais broblem debyg rhai blynyddoedd yn ôl, am berson oedd yn enwog yng Nghymru ond yn cael ei hystyried yn "not notable" yn y byd Saesneg. Barn Wici rhyngwladol, oedd mai mater i'r wiciau lleol yw pwy neu beth y maent yn son amdanynt ar eu safleoedd hwy. Cadwn yr erthygl am Gymro yma. Ond y Cwestiwn yw os yw'r erthygl yn berthnasol i Gymry Cymraeg; pa hawl sydd gan Wikipedia Saesneg i ddweud nad ydyw yn berthnasol i Gymry ddi-gymraeg, gan mae eu Wici hwy, hefyd yw Wikipedia Saesneg? 01:22, 8 Mehefin 2025 (UTC)
- Mae'r mater hwn yn dal i godi gyda'r unigolyn yn dal i ofyn am i'r erthygl gael ei dileu. Dwi'n gallu gweld safbwynt yr unigolyn, gan gymryd mai'r person go iawn sy'n gwneud y cais, yn teimlo embaras ac nad yw'n deilwng o erthygl (hyd yn oed, fel dwi'n amau, mai fo ei hun wnaeth greu'r erthygl yn y lle cyntaf). Ar y wiki Saesneg, dwi'n gweld achos tebyg, lle mae'r uniglyn dan sylw yn gofyn am BLP courtesy deletion. User talk:Gottagoaway sy'n gwneud y cais am yr erthygl George Hirsch (musician). Mae trafodeath am y cais yma. Tra dwi'n deall y ddadl y byddai hyn yn gosod cynsail, dwi hefyd yn meddwl am boen meddwl all hyn fod yn achosi i unigolyn, a does dim i'w ennill o fod yn rhy haearnaidd gyda'n rheolau (sy'n anysgrifenedig yn aml) ac sy'n gallu rhoi enw drwg i'r prosiect. Rhyswynne (sgwrs) 11 Medi 2026
- Diolch am godi hyn Rhys. Dw i'n gweld fod rhywun wedi codi GDPR ond IP yn unig a roddwyd, felly tydan ni ddim yn gwybod pwy yw'r 'unigolyn' sy'n gofyn am i'r erthygl gael ei dileu'. Mae 3 pheth yn codi:
- 1. Mae angen i Connor Morgans ddangos / brofi mai fo sy'n gofyn i ni ddileu'r erthygl drwy ddefnyddio ei gyfri go iawn ar lwyfan arall ee LinkedIn i gyfeirio at ei ddymuniad i ddileu'r erthygl. Byddai nodyn syml fel 'I've requested the deletion of a Welsh article on me on Wicipedia to be deleted.'
- 2. Dylem ofyn am farn cyfreithiol arbenigwr ar GDPR. Dw i ddim yn gweld unrhyw fater cyffelyb yn yr enghreifftiau mae Rhys yn eu nodi ar en-wiki. Y cwestiwn i'w ofyn, am wn i fyddai: "Ydy'r erthygl Gymraeg yn torri hawliau GDPR gwrthrych yr erthygl mewn unrhyw fodd?" Mae gan Sefydliad Wicimedia gyfreithwyr a all ateb hyn.
- 3. Mae'r rhan fwyaf ohonom ar hyn o bryd o blaid cadw'r erthygl. Mae mater o dorri (potensial) hawliau GDPR yn fater difrifol, ac felly mae'n iawn i ni ddilyn y sgwarnog yma'n hollol ddiduedd, ac ar ol peth ymchwil, bydd rhaid dod i farn unwaith eto, o'r newydd.
- Neu a oes barn arall? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:44, 13 Medi 2026 (UTC)
- Mae'r GDPR yn sôn am hawl i ddiddymu gwybodaeth bersonol ond nid yw'n hawl diamod. Nid yw'n gymwys lle mae'r wybodaeth yn rhan o fynegiant barn neu wybodaeth (e.e. mae ysgrifennu tudalen Wici yn debyg iawn i newyddiaduraeth ond hyd yn oed yn fwy di-duedd). https://ico.org.uk/for-organisations/uk-gdpr-guidance-and-resources/individual-rights/individual-rights/right-to-erasure/#ib2
- Mae gwybodaeth am Connor yn parhau i fod yn gyhoeddus ar lwyfannau eraill (tudalennau ganddo ef ar LinkedIn, Instagram a'i wefan ei hun - e.e. mae'n rhestru ei waith https://connormorgans.com/work). Felly does dim rheswm dileu y wybodaeth ar y Wici - mae'n ymddangos fel ymgais i gael reolaeth dros ffynhonell wybodaeth annibynnol. Dafyddt (sgwrs) 11:35, 24 Medi 2026 (UTC)
-
- @Dafyddt, Rhyswynne, Craigysgafn: a phawb arall - unrhyw sylw ar sylwadau diweddaraf y defnyddiwr anhysbys ar Sgwrs:Connor Morgans? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:57, 3 Hydref 2026 (UTC)
- Dwi ddim gweld bod ni'n mynd yn groes i unrhyw reolau GDPR - fel sydd wedi cael ei nodi, roedd ganddo swydd fel wyneb cyhoeddus yn cyflwyno rhaglen radio. Does dim manylion yn anghywir, hyd yn oed os nad yw'n gyflwynydd mwyach. Yr unig beth anghywir neu gamarwieiniol ydy bod yr erthygl ar y funud yn dweud Cyflwynydd a chynhyrchydd [..] yw Connor Morgans yn lle Cyn-gyflwynydd a chyn-gynhyrchydd [..] yw Connor Morgans. Dydy'r ffaith bod ffynonellau ar-lein wedi diflannu (ond yn dal ar gael drwy archif) ddim yma nac acw chwaith.
- Ond gan mai cyflwyno rhaglen radio gymunedol a radio ysbyty oedd o, baswn i jest yn dadlau nad yw'n ddigon amlwg i haeddu erthygl. Dwi'n meddwl mae teimlo embaras am hyn mae'r unigolyn, er mod i'n amanu mai fo ei hun greodd yr erthygl yn y lle cyntaf i drio hyrwyddo ei hun yn y gorffennol, ac yn difaru rwan. Os rhywbeth, mai bai arnom am adael i'r erthygl aros yn y lle cyntaf
- Dwi o blaid dileu'r erthygl ar sail diffyg amlygrwydd - mae hyn wedyn yn osgoi cynsail o ddileu erthygl ar gais unrhyw berson cyhoeddus neu amlwg sydd ddim yn hoffi bod erthygl amdanynt. Rhyswynne (sgwrs) 09:12, 5 Hydref 2026 (UTC)
- Gan nad oes barn wahanol, mi wna i ddileu'r erthygl ar sail Wicipedia:Amlygrwydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:59, 8 Hydref 2026 (UTC)
- Mae ymateb Rhys yn esbonio'r peth yn well na fi felly mae hyn yn ddigon teg. Mae'n ymddangos fel fod yr unigolyn ar un adeg wedi bwriadu bod yn gyflwynydd radio ond wedi penderfynu canolbwyntio ar waith tu ôl y llenni fel cynhyrchydd. Mae yna le i gofnodi y fath bobl wrth gwrs, rhai nodedig fel Dyl Mei neu Gareth Morlais, ond nid os ydyn nhw'n gwrthwynebu yn llwyr. Dafyddt (sgwrs) 19:07, 8 Hydref 2026 (UTC)
- Gan nad oes barn wahanol, mi wna i ddileu'r erthygl ar sail Wicipedia:Amlygrwydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:59, 8 Hydref 2026 (UTC)
- @Dafyddt, Rhyswynne, Craigysgafn: a phawb arall - unrhyw sylw ar sylwadau diweddaraf y defnyddiwr anhysbys ar Sgwrs:Connor Morgans? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:57, 3 Hydref 2026 (UTC)
Gwall - Siroedd yr Unol Daleithiau
[golygu cod]Dw i newydd sylwi ar wall ar lawer o erthyglau siroedd yr Unol Daleithiau, gyda phethau fel [[Unol Daleithiau America[1]]] yn yr erthygl a [[Delwedd:{{alias baner gwlad Unol Daleithiau America[1]}}|22x20px|Baner {{alias gwlad Unol Daleithiau America[1]}}]] [[{{alias gwlad Unol Daleithiau America[1]}}]] yn y gwybodlen - ai'r cyfeiriad sy'n torri'r ddolen? Enghreifftiau: Murray_County,_Oklahoma Queens_County,_Efrog_Newydd Union_County,_Gogledd_Carolina Taos_County,_Mecsico_Newydd ... mae tua 121,000 ohonynt yn ôl google (chwiliwch am "[[Unol") Llygad Ebrill (sgwrs) 14:04, 16 Medi 2026 (UTC)
- Rwy'n credu bod hyn wedi digwydd yn ddiweddar iawn. Mae nodyn:alias baner gwlad Unol Daleithiau America yn dal i weithio. Felly mae'n ymddangos bod problem gyda cod {{banergwlad|{{wikidata|properties|qualifier|references|normal+|best|P17}}}} yn y wybodlen. Mae'r "[1]" hwnnw wedi gwthio ei ffordd i mewn i'r cod rywsut ac wedi torri'r cysylltiad. Ond mae hyn y tu hwnt i fy sgiliau fforensig. Mae'r pethau hyn mor flinderus! Craigysgafn (sgwrs) 19:30, 16 Medi 2026 (UTC)
- Diolch eich dau! Nid cyfieithiadau slafaidd yw llawer o'n Nodion a Modiwlau eithr addasiadau a rhai'n hollol wreiddiol, felly mae copio o en ar adegau'n hurt: dyna sydd wedi digwydd yma. Mae yna ddau olygydd wedi bod yn gweneud hyn yn ddiweddar (Defnyddiwr:ChomponU Pongsawet oedd y cyntaf), ar rai o'n Nodion / Modiwlau pwysicaf. Sbiwch ar Sgwrs Defnyddiwr:Janhrach lle dw i wedi gadael neges yn gofyn iddo/i gywiro ei gwaith asap. Wedi datrus hyn, efallai y dylem drafod cloi'r holl Nodion a Modiwlau a rhoi catniatad i olygydd unigol wedi iddo wneud cais arbennig... neu mi eith pethau'n ffradach. Yn y Modiwl wd a wicidata mae'r drwg yn y caws, ond mae un neu ddau arall yn effeithio ar y rhain. Mi roi un cynnig i'r golygydd, ac os yw'n methu, dw i'n awgrymu ein bod yn ei drin fel fandaliaeth eithafol, a;i reportio i Meta. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:11, 17 Medi 2026 (UTC)
- Mae hwn a Chambers County, Alabama gan FOT-Twm Crys yn ateb y broblem uchod, ond mae angen mynd ar ol pam fod y cod wedi'i chwalu. Dw i am fynd ymlaen gyda'r datrusiad hwn. Mae 550 wedi'u newid allan o tua 32,000: Golygiadau BOT-Twm Crys. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:04, 19 Medi 2026 (UTC)
- Diolch eich dau! Nid cyfieithiadau slafaidd yw llawer o'n Nodion a Modiwlau eithr addasiadau a rhai'n hollol wreiddiol, felly mae copio o en ar adegau'n hurt: dyna sydd wedi digwydd yma. Mae yna ddau olygydd wedi bod yn gweneud hyn yn ddiweddar (Defnyddiwr:ChomponU Pongsawet oedd y cyntaf), ar rai o'n Nodion / Modiwlau pwysicaf. Sbiwch ar Sgwrs Defnyddiwr:Janhrach lle dw i wedi gadael neges yn gofyn iddo/i gywiro ei gwaith asap. Wedi datrus hyn, efallai y dylem drafod cloi'r holl Nodion a Modiwlau a rhoi catniatad i olygydd unigol wedi iddo wneud cais arbennig... neu mi eith pethau'n ffradach. Yn y Modiwl wd a wicidata mae'r drwg yn y caws, ond mae un neu ddau arall yn effeithio ar y rhain. Mi roi un cynnig i'r golygydd, ac os yw'n methu, dw i'n awgrymu ein bod yn ei drin fel fandaliaeth eithafol, a;i reportio i Meta. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:11, 17 Medi 2026 (UTC)
Casgliad Geoff Charles
[golygu cod]Sori i fod yn boen, ond oes posib rhoi dolen i ganfod casgliad o luniau Geoff Charles yn hawdd, os gwelwch yn dda? Mi oedd yna ddolen yma, ond mae'n debyg ei bod wedi'i chwalu yn y tacluso! Diolch Paulpesda (sgwrs) 18:49, 22 Medi 2026 (UTC)
- https://commons.wikimedia.org/wiki/Category:Photographs_by_Geoff_Charles_in_the_National_Library_of_Wales
- Mae rhai wedi cael eu categoreiddio, e.e.
- https://commons.wikimedia.org/wiki/Category:Photographs_of_theatre_productions_by_Geoff_Charles
- I ganfod pethau fel hyn, clicia ar lun ar y Wicipedia Cymraeg, wedyn clicia ar fotwm glas 'Mwy o fanylion' yn y gornel dde isaf, ac aiff hyn â ti at llun yn y Comin. Yn ddelfrydol, bydd y llun wedyn wedi ei gategoreiddio rhyw ffordd neu gilydd, yn ôl lleoliad, amser, testun ayyb. Mae rhai Geoff Charles mewn categori am eu bod o gasgliad arbennig. Rhyswynne (sgwrs) 16:33, 23 Medi 2026 (UTC)
- Diolch iti Rhys Paulpesda (sgwrs) 18:57, 23 Medi 2026 (UTC)
Nodau "Pethau" a "Person"
[golygu cod]Byddwch yn falch o glywed mod i [o'r diwedd!!] wedi dod i ddeall pwysigrwydd y Wicidata a'r Nodyn: Person a Nodyn:Pethau. Dwi hefyd wedi ail-ddarllen y cyngor a'r trafod a fu, ac yn cytuno bod y ddau nodyn yma yn ddigonol, o ran creu erthyglau yn y Gymraeg, ac yn cynnwys digon o wybodaeth i roi blas o'r erthygl. Dwi ar hyn o bryd wrthi yn ail-dwtio fy holl erthyglau, gan wneud yn siwr fod y wybodaeth yn y Wicidata, ac wedyn bod y Nodyn cywir yn ei le. Gyda'r rhaglenni teledu a radio, dwi'n gweld y broblem [ac yn dallt, bellach!] y broblem gyda'r Nodyn:Infobox amrywiol, lle yn aml iawn [o'm profiad i hyd yma] nid yw'r wybodaeth ar Wicidata, ac felly yn amlwg yn cael ei gynnwys o lefydd eraill. Dwi eto'n cytuno y dylai'r wybodaeth fod ar Wicidata, ac mai y Nodau Person a Pethau ydi'r rhai taclusaf a'r hawsa, i'w gweithredu.
Yr unig gais yr hoffwn ei wneud @Llywelyn2000 ydi gofyn yn garedig, a fyddai modd ychwanegu "darlledwyd gan" a "cyflwynwyr" at y Nodyn:Pethau a "brawd neu chwaer" at y Nodyn:Person. I mi, mae'r berthynas deuluol rhwng brodyr a chwiorydd yn un bwysig, a tydi "perthnasau" ddim yn rhoi'r modd inni nodi'r union berthynas â'r gwrthrych. O ran y ddau arall, mae llawer o raglenni radio wedi'i nodi fel "Sianel deledu" neu "cyhoeddwyr" sydd yn hynod o ddryslyd, a dim sôn am y cyflwynwyr, dim ond o'u gosod yn "cysylltir â".
Beth yw barn eraill am hyn? Diolch Paulpesda (sgwrs) 13:39, 23 Medi 2026 (UTC)
- Cytuno! Dw i ddim ar gael am ryw wythnos, ond mi wna i eu hychwanegu asap (pan gyrhaeddaf adre!) Gyda llaw, mae 3ydd Gwybodlen ar gael: Nodyn:Lle. Mi ges i'r syniad o'r gem 20 cwestiwn ('anifail, llysieuyn neu fwyn') Diolch am fynd ati i dacluso fel hyn! Os caf gyfle, ryw dro, mi af ati i dacluso / dileu pob erthygl sydd a'r Nodyn:Gwella arni!
- ON Glywaist ti rywbeth gan S4C wedi iddyn nhw ddanfon y talp cyntaf o ddata aton ni? Os nad yna dw i'n amcangyfrif y byddan nhw'n gorffen y gwaith tua 859 mlynedd wedi marwolaeth y Gymraeg. ;-) - Llywelyn2000 (sgwrs) 10:02, 24 Medi 2026 (UTC)
"Meet Up" Cymraeg ar-lein #2?
[golygu cod]Yn yr haf dywedais i fyddai ceisio cynnal cyfarfod ar-lein arall yn yr hydref drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, os hoffech chi gael sgwrs ar-lein anffurfiol gyda Wicipedwyr eraill i sôn am beth chi'n gweithio arno, i glywed beth maen nhw'n gweithio arno, neu jest cael clecs, pleidleisio yn y pôl yma i ddangos eich argaeledd. https://whenavailable.com/invite/J2p7TOyPHF3CFH6ImFZc
Fel y tro diwethaf byddaf yn dewis y dyddiad a’r amser mwyaf poblogaidd, ond byddaf yn angen o leiaf 5 o bobl ar gael ar yr un pryd i fynd ymlaen. Unrhyw gwestiynau plîs anfon e-bost ataf! Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 09:17, 6 Hydref 2026 (UTC)
"Wicimediwr y Flwyddyn 2026" (a pharti pen-blwydd 3ydd o Dachwedd)
[golygu cod]Dw i newydd wedi anfon mas y cylchlythyr diweddar ond anghofiais gynnwys ein bod ni nawr yn derbyn enwebiadau am “Wicimediwr y Flwyddyn 2026”! Sori!
Byddai’n yn wych i gael cynrychiolaeth gref o’n cymuned fach felly os hoffech chi ddathlu’r gwaith caled golygydd arall, golygydd newydd neu sefydliad chi’n meddwl wedi gwneud gwaith da gyda Wici, gallwch gwblhau’r ffurflen enwebu yma. Dyddiad cau yw'r 1af o Dachwedd ac mae’n well i roi mwy o wybodaeth i’r panel na llai.
Parti pen-blywdd 3ydd o Dachwedd - Mae’r cylchlythyr hefyd yn gynnwys mwy o fanylion am ein parti pen-blwydd yng Nghaerdydd ar 3ydd o Dachwedd 6.30yh i 9yh. Os hoffech chi ddod, gofrestrwch ar Meta o.g.y.dd a rhowch wybod i fi am unrhyw alergeddau neu anghenion dietegol drwy e-bost.
Rydym obeithio allu helpu gyda chostau teithiau hefyd, felly os yw hyn yn rhwystr, plîs anfonwch e-bost ataf (gemma.coleman@wikimedia.org.uk). Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 14:04, 7 Hydref 2026 (UTC)