Neidio i'r cynnwys

Pengwin

Oddi ar Wicipedia
Pengwiniaid
Pengwiniaid Brenhinol
(Aptenodytes patagonicus)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Sphenisciformes
Sharpe, 1891
Teulu: Spheniscidae
Bonaparte, 1831
Genera modern

Aptenodytes
Eudyptes
Eudyptula
Megadyptes
Pygoscelis
Spheniscus

Aderyn sydd ddim yn medru hedfan yw Pengwin. Maent yn byw yn Hemisffer y De o Antarctica i Ynysoedd y Galapagos, ar y Cyhydedd.[1] Maent yn bwyta pysgod, cramenogion ac ystifflogod.[1] Mae'n aelod o'r urdd Sphenisciformes.

Etymoleg yr enw

[golygu | golygu cod]

Pengwyniaid Cymraeg? Mae'r rhan fwyaf o eiriaduron yn dyfynnu bod y gair pengwin yn deillio o'r term Cymraeg "pen gwyn", sy'n cyfieithu i "white head" yn Saesneg. Ydi’r gair Saesneg PENGUIN yn tarddu o “ben gwyn” y CARFIL MAWR. Aeth y carfil mawr i ddifodant ddechrau’r 19eg ganrif trwy hela barus a didrugaredd morwyr oherwydd ei anallu i hedfan. Gairfowl oedd ei enw Saesneg ar y pryd. Tybed ai o’r gair hwn mae ein gair carfil yn dod? Ond cwestiwn arall sydd gan Ruairidh (Roddy) Mclean - ai pen gwyn y carfil mawr esgorodd ar y gair ‘pengwin’ gan forwyr Cymreig, cyn cael ei fabwysiadu am y pengwin, aderyn tebyg ei ymarweddiad ym moroedd y de? Ac ai dyma darddiad penguin yn Saesneg?
Mae’r ateb yn gymhleth a diddorol ac mae Ruairidh (Roddy) Mclean yn pwyso a mesur y dystiolaeth yn deg. (Agorwch y ddolen I ddarllen ei ysgrif yn yr Aeleg). Mae ei ddadleuon i'w gweld ym Mwletin Llên Natur rhifyn 53[2]
Mae’r rhaghysbyseb i fersiwn ar-lein newydd yr Oxford English Dictionary yn dweud fel hyn:

the earliest recorded use of penguin can be traced back to Wales. Whilst the famous flightless bird was being referred to as gare-fowl in the far north of Europe, the Welsh coined the term from two words - pen meaning head and gwyn meaning white. The first written citation is from 1577, "Infinite were the Numbers of the foule, wch the Welsh men name Pengwin & Maglanus tearmed them Geese."[3]

Dyma ddywed Geiriadur Prifysgol Cymru am "pengwin" neu "pengwyn": "benthyciad o’r Saesneg penguin; ceisir weithiau darddu'r Saesneg penguin o’r Gymraeg pen gwyn".[4]

Rhai rhywogaethau yn yr un teulu

[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

teulu enw tacson delwedd
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 Perrins, Christopher, gol. (2004) The New Encyclopedia of Birds, Oxford University Press, Rhydychen.
  2. ↑ "Bwletin Llên Natur 153" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-11-25. Cyrchwyd 2020-12-23.
  3. ↑ Datganiad i’r wasg gan gyhoeddwr yr OED
  4. ↑  pengwin. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2021.
Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.