Neidio i'r cynnwys

Hillary Clinton

Oddi ar Wicipedia
Hillary Clinton
Hillary Clinton


Cyfnod yn y swydd
21 Ionawr 2009 – 1 Chwefror 2013
Dirprwy James Steinberg
William Joseph Burns
Arlywydd Barack Obama
Rhagflaenydd Condoleezza Rice
Olynydd John Kerry

Cyfnod yn y swydd
3 Ionawr 2001 – 21 Ionawr 2009
Rhagflaenydd Daniel Patrick Moynihan
Olynydd Kirsten Gillibrand

Cyfnod yn y swydd
20 Ionawr 1993 – 20 Ionawr 2001
Arlywydd Bill Clinton
Rhagflaenydd Barbara Bush
Olynydd Laura Bush

Geni 26 Hydref 1947(1947-10-26)
Chicago, Illinois, UDA
Plaid wleidyddol Plaid Ddemocrataidd
Priod Bill Clinton
Plant Chelsea Clinton
Llofnod

Gwleidydd o'r Unol Daleithiau yw Hillary Diane Rodham Clinton (ganed 26 Hydref 1947), hefyd gwraig Arlywydd Bill Clinton; a bu'n Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau yn ystod arlywyddiaeth ei gŵr (1993 - 2001) Hi oedd 67ain Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau o 2009 hyd 2013 a Seneddwr o Efrog Newydd o 2001 hyd 2009. Roedd hi'n un o ymgeiswyr arlywyddol y Blaid Ddemocrataidd yn 2008 ond enillodd Barack Obama yr enwebiad. Collodd hefyd yn Etholiad 2016, pan gipiodd Donald Trump yr arlywyddiaeth.

Personol

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Chicago a'i magu ym mwrdeistref Park Ridge, Illinois, ble astudiodd y gyfraith yng Ngholeg Wellesley, gan raddio yn 1969. Derbyniodd radd arall yn Ysgol y Gyfraith, yng Ngholeg Iâl yn 1973. Bu'n gwnsel am ychydig cyn priodi Bill Clinton yn 1975. Roedd ei thad, Hugh Ellsworth Rodham (1911–1993) o dras Gymreig a Seisnig[1] a weithiai fel rheolwr yn y diwydiant tecstilau,[2] a'i mam Dorothy Howell Rodham (1919–2011), o dras Albanaidd, Cymreig, Seisnig, Canadaidd ac Iseldiraidd.[1][3]

Ymgeisydd am Arlywyddiaeth 2016

[golygu | golygu cod]

Yng Ngorffennaf 2016 fe'i henwebwyd gan y Blaid Ddemocrataidd fel eu ymgeisydd ar gyfer yr arlywyddiaeth yn Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016, y fenyw gyntaf i'w enwebu gan unrhyw brif blaid yn yr U.D.A. Cododd sawl honiad o dwyll a cham-weithredu yn ei herbyn, nid yn unig gan ei gwrthwynebydd Donald Trump yn y ras am yr Arlywyddiaeth, ond ychydig ddyddiau cyn yr etholiad - gan yr FBI. Roedd y prif honiadau'n ymwneud â nifer o ebyst a oedd wedi'u dileu. Trump a orfu, yn groes i'r polau piniwn.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 Roberts, Gary Boyd. "Notes on the Ancestry of Senator Hillary Rodham Clinton". New England Historic Genealogical Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mehefin 2013. Cyrchwyd November 10, 2012.
  2. ↑ Bernstein 2007, tt. 17–18.
  3. ↑ Smolenyak, Megan (Mai 2015). "Hillary Clinton's Celtic Roots". Irish America.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Rhagflaenydd:
Barbara Bush
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau
1993 – 2001
Olynydd:
Laura Bush
Cyngres yr Unol Daleithiau
Rhagflaenydd:
Daniel Patrick Moynihan
Seneddwr dros Efrog Newydd
gyda Charles Schumer

2001 – 2009
Olynydd:
Kirsten Gillibrand
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Condoleezza Rice
Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau
2009 – 2013
Olynydd:
John Kerry
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.