Neidio i'r cynnwys

Yr Ardal Ddu

Oddi ar Wicipedia
Y Wlad Ddu
Mathendid tiriogaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd138 mi² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.55°N 2.03°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r  Ardal Ddu[1] (Saesneg: The Black Country) yn rhanbarth o Orllewin Canolbarth Lloegr.[2] Mae ei ffiniau'n ansicr, ond mae'n cynnwys bwrdeistrefi metropolitan Dudley a Sandwell ac, o bosib, Walsall a Wolverhampton hefyd.[3] Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, daeth yn un o'r ardaloedd mwyaf diwydiannol ym Mhrydain, gyda phyllau glo, glo golosg, ffowndrïau haearn, ffatrïoedd gwydr, gweithfeydd brics a melinau dur, gan gynhyrchu lefel uchel o lygredd.

Disgrifiwyd yr heol 14 milltir rhwng Wolverhampton a Birmingham fel "un dref ddi-dor" ym 1785.[4] Mae'r cofnod cyntaf o'r enw The Black Country yn dyddio i'r 1840au.[5] Mae'n debyg ei fod yn deillio o'r huddygl a ddeuai o ddiwydiannau trwm yr ardal, er bod y sêm lo 30 troedfedd o drwch (10 metr) sy'n agos i'r wyneb yn darddiad posibl arall.

Er bod y diwydiant llygredd trwm a roddodd i'r ardal ei henw wedi hen ddiflannu, mae'r enw wedi ennill ei blwyf drwy'r ymdeimlad o rannu hanes a thraddodiad. At hynny, mae adfywiad yr ardal gan lywodraeth leol a'r llywodraeth genedlaethol wedi rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i'r rhanbarth ac, i ryw raddau, wedi diffinio ffiniau'r rhanbarth.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "black": I.II.3.2.B
  2. ↑ "What or where is the Black Country?". Blackcountrysociety.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Ionawr 2012. Cyrchwyd 13 Ionawr 2012.
  3. ↑ "What and where is the Black Country?". BBC. Cyrchwyd 28 Mai 2014.
  4. ↑ Jones, Peter M. (2009). Industrial Enlightenment: Science, technology and culture in Birmingham and the West Midlands, 1760–1820. Manchester: Manchester University Press. t. 27.
  5. ↑ Jones, Peter M. (2009). "Birmingham and the West Midlands". Industrial Enlightenment: Science, technology and culture in Birmingham and the West Midlands, 1760–1820. Manchester: Manchester University Press. t. 22.