UNESCO
| Enghraifft o: | asiantaeth arbenigol y Cenhedloedd Unedigl, sefydliad rhynglywodraethol |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 16 Tachwedd 1945 |
| Lleoliad yr archif | University of Maryland Libraries |
| Pennaeth y sefydliad | Director-General of UNESCO |
![]() | |
| Rhagflaenydd | International Committee on Intellectual Cooperation |
| Aelod o'r canlynol | Global Citizen Science Partnership, Global Academic Integrity Network |
| Isgwmni/au | UNESCO Chair on Cyberspace and Culture, Scientific Committee on Problems of the Environment, UNESCO Institute for Statistics, Iranian National Commission for UNESCO, Hylean Amazon Institute, International Center for Documentary Heritage, World Heritage Committee |
| Rhiant sefydliad | Y Cenhedloedd Unedig |
| Pencadlys | Paris |
| Enw brodorol | United Nations Educational, Scientific and Cultural Organization |
| Gwladwriaeth | Ffrainc |
| Gwefan | https://unesco.org/en, https://fr.unesco.org, https://es.unesco.org, https://ru.unesco.org, https://ar.unesco.org, https://zh.unesco.org |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05yg8kx |
Asiantaeth o'r Cenhedloedd Unedig yw Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (Saesneg: United Nations Educational, Scientific and Cultural Organization, Ffrangeg: L'Organisation des Nations unies pour l’éducation, la science et la culture) neu UNESCO. Sefydlwyd ym 1946 er mwyn gwella cydweithrediad rhyngwladol. Mae'r pencadlys ym Mharis, Ffrainc, ac mae 195 o wledydd yn aelod o UNESCO.
Un o amcanion UNESCO yw cynnal rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Mae'r safleoedd hyn yn bwysig yn hanesyddol; yn naturiol y cred y gymuned byd-eang bod eu amddiffyn yn bwysig.
Y wladwriaeth ddiweddaraf i ymuno â hi yw Palesteina yn Nhachwedd 2011.[1]
Gweithgareddau
[golygu | golygu cod]
Mae UNESCO yn rhoi ei gynlluniau ar waith trwy rhaglen sy'n cynnwys y meysydd canlynol:
- Addysg
- Gwyddorau naturiol
- Gwyddorau cymdeithasol a dynol
- Diwylliant
- Cyfathrebu a gwybodaeth
- Mae UNESCO hefyd yn rhyddhau 'datganiadau' cyhoeddus er mwyn addysgu'r cyhoedd:
- Datganiad Seville ar Drais: Datganiad a fabwysiadwyd gan UNESCO ym 1989 er mwyn gwrthbrofi'r syniad bod gan bobl dueddiad biolegol cynhenid i ryfela.
- Dynodi prosiectau a llefydd o arwyddocâd diwylliannol a gwyddonol, megis:
- Rhwydwaith Rhyngwladol Geoparciau
- Gwarchodfeydd Biosffer, trwy Raglen Dyn a'r Biosffer (MAB), ers 1971
- Dinas Lenyddiaeth: Yn 2007, Caeredin oedd y ddinas gyntaf i dderbyn y teitl[2] Yn 2008, daeth Dinas Iowa City yn ddinas lenyddiaeth. Yn 2025, daeth Aberystwyth yn ddinas Llên cyntaf Cymru.
- Ieithoedd dan fygythiad a phrosiectau amrywiant ieithyddol
- Campweithiau Treftadaeth Lafar ac Anghyffwrdd Dynoliaeth
- Cofrestr ryngwladol Cof y Byd, ers 1997
- Rheoli adnoddau dŵr, trwy raglen IHP, ers 1965
- Safleoedd Treftadaeth y Byd
- Annog llif syniadau trwy ddelweddau a geiriau
- Hybu digwyddiadau, megis:
- Degawd Rhyngwladol er mwyn Annog Diwylliant Heddwch a Di-dreisedd ar gyfer Plant y Byd: 2001–2010
- Diwrnod Rhyddid Gwasg y Byd, Mai'r 3ydd pob blwyddyn, er mwyn hybu rhyddid mynegiant a rhyddid y wasg fel hawl dynol ac elfennau creiddiol unrhyw gymdeithas iach, ddemocrataidd, rydd.
- Criança Esperança ym Mrasil, trwy bartneriaeth gyda Rede Globo, er mwyn codi pres tuag at brosiectau cymunedol sy'n hybu cyfannu cymdeithasol ac atal trais.
- Diwrnod Llythrennedd y Byd
- Blwyddyn Ryngwladol dros Ddiwylliant Heddwch
- Sefydlu ac ariannu prosiectau
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "UNESCO » Media Services » General Conference admits Palestine as UNESCO Member State". Portal.unesco.org. Cyrchwyd 31 Hydref 2011.
- ↑ Varga, Susan (2006). Edinburgh Old Town (Images of Scotland). The History Press Ltd. ISBN 0-7524-4083-7.
