Llyn Trasimeno
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 128 km² |
| Uwch y môr | 258 metr |
| Cyfesurynnau | 43.14°N 12.1°E |
| Dalgylch | 396 cilometr sgwâr |
| Hyd | 16.1 cilometr |
![]() | |

Llyn yn Umbria yng nghanolbarth yr Eidal yw Llyn Trasimeno neu Llyn Trasimene (Eidaleg: Lago Trasimeno). Saif 15 km i'r gorllewin o ddinas Periwgia, 258 medr uwch lefel y môr. Mae ei arwynebedd yn 128 km2, a'i ddyfnder yn 7 medr yn y man dyfnaf. Y trefi ger ei lan yw Tuoro sul Trasimeno, Passignano sul Trasimeno, Magione a Castiglione del Lago. Ef yw pedwerydd llyn yr Eidal o ran maint; dim ond Llyn Garda, Llyn Maggiore a Llyn Como sy'n fwy.
Ceir tair ynys yn y llyn: Isola Maggiore, Isola Minore a Isola Polvese. Yn 217 CC, bu brwydr enwog, Brwydr Llyn Trasimene, ar lan ogleddol y llyn rhwng byddinoedd Gweriniaeth Rhufain a Carthago ger y llyn, pan ddinistriwyd byddin Rufeinig yn llwyr gan Hannibal.
