Neidio i'r cynnwys

Dubai

Oddi ar Wicipedia
Dubai
Mathdinas, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas fawr, dinas global, metropolis, y ddinas fwyaf Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,944,751 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 9 Mehefin 1833 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMohammed bin Rashid Al Maktoum Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig
Arwynebedd35 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEmirate of Sharjah Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.2697°N 55.3094°E Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMohammed bin Rashid Al Maktoum Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganHouse of Maktoum Edit this on Wikidata

Mae Dubai (Arabeg: إمارة دبي) yn un o'r saith o Emiradau, yn brifddinas Emiradau Dubai a hi yw'r dinas fwyaf poblog yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (EAU), gyda phoblogaeth o tua 3,944,751 (2025)[1]. Lleolir y ddinas ar arfordir gogleddol y wlad ar y Penrhyn Arabaidd. Weithiau gelwir Bwrdeistref Dubai yn ddinas Dubai er mwyn medru gwahaniaethu rhyngddo a'r Emiradau.[2][3][4]

Dengys dogfennau ysgrifenedig fodolaeth y ddinas o leiaf 150 o flynyddoedd cyn i'r Emiradau Arabaidd Unedig gael eu ffurfio. Mae Dubai yn rhannu cyfundrefnau cyfreithiol, gwleidyddol, milwrol ac economaidd gyda'r Emiradau eraill o fewn fframwaith ffederal, er bod gan bob emiraeth reolaeth dros rhai swyddogaethau fel gweinyddu'r gyfraith a chynnal a chadw cyfleusterau lleol. Mae gan Dubai y boblogaeth fwyaf a hi yw ail emiraeth fwyaf o ran arwynebedd ar ôl Abu Dhabi. Dubai ac Abu Dhabi yw'r unig ddwy ermiraeth sydd a'r pŵer i veto ar faterion o bwysigrwydd cenedlaethol o dan ddeddfwriaeth y wlad. Mae brenhinlin Al Maktoum wedi rheoli Dubai ers 1833. Mae rheolwr presennol Dubai, Mohammed bin Rashid Al Maktoum hefyd yn Brif Weinidog ac Is-arlywydd yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Daw prif incwm y ddinas o dwristiaeth, masnach, gwerthu cartrefi a gwasanaethau ariannol. Mae arian o betrol a nwy naturiol[5] yn cyfrif am lai na 6% (2006) o economi $37 biliwn (UDA) Dubai. Fodd bynnag, cyfrannodd gwerthu tai a'r diwydiant adeiladu 22.6% i'r economi yn 2005, cyn y twf adeiladu ar raddfa eang a welir ar hyn o bryd.[6][7][8][9]

Lleolir twr fwyaf y Byd sef y Burj Khalifa yno, ac fe'i agorwyd yn swyddogol yn 2010. Mae Dubai wedi denu sylw yn sgil ei chynlluniau adeiladu a'i digwyddiadau ym myd chwaraeon.

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Yn ystod y 1820au, cyfeiriwyd at Dubai fel Al Wasl gan haneswyr o'r DU. Fodd bynnag, prin yw'r cofnodion sy'n ymwneud â hanes diwylliannol yr EAU neu'r Emiradau cyfansoddiadol yn sgîl traddodiadau llafar yr ardal wrth gofnodi a throsglwyddo chwedlau a straeon. Ceir anghydweld hefyd ynglŷn â tharddiad ieithyddol yr enw 'Dubai', wrth i rai credu ei fod yn tarddu o Bersia tra bod eraill o'r farn mai gwreiddiau Arabaidd sydd i'r enw. Yn ôl Fedel Hanadl, ymchwilydd ar hanes a diwylliant yr EAU, mae'n bosib fod y gair Dubai wedi dod o'r gair Daba (amrywiad o Yadub), sy'n meddwl cripian; gallai'r gair gyfeirio ar lif Cilfach Dubai i mewn tua'r tir, tra bod y bardd a'r ysgolhaig Ahmad Mohammad Obaid yn credu fod tarddiad y gair yr un peth, ond mai ei ystyr yw locustiaid.[10]

Mae hanes anheddiad dynol yn yr ardal sydd bellach wedi'i ddiffinio gan yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn gyfoethog a chymhleth, ac yn tynnu sylw at gysylltiadau masnachu helaeth rhwng gwareiddiadau Dyffryn Indus a Mesopotamia, ond hefyd mor bell i ffwrdd â'r Lefant.[11] Mae darganfyddiadau archaeolegol yn emirate Dubai, yn enwedig yn Al-Ashoosh, Al Sufouh a chyfoethog nodedig Saruq Al Hadid yn dangos fod yma anheddiadau dynol trwy'r cyfnodau Ubaid a Hafit, cyfnodau Umm Al Nar a Wadi Suq a'r tair Oes Haearn. Roedd yr ardal yn hysbys i'r Sumeriaid fel "Magan", ac roedd yn ffynhonnell ar gyfer nwyddau metelaidd, yn enwedig copr ac efydd.[12][13]

Gorchuddiwyd yr ardal â thywod tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl wrth i'r arfordir gilio i mewn i'r tir, gan ddod yn rhan o arfordir presennol y ddinas.[14] Cafwyd hyd i serameg cyn-Islamaidd o'r 3g a'r 4g. Cyn cyflwyno Islam i'r ardal, roedd pobl y rhanbarth hwn yn addoli Bajir (neu Bajar).[15] Ar ôl i Islam ledaenu yn y rhanbarth, goresgynnodd Umayyad Caliph (o'r byd Islamaidd dwyreiniol) dde-ddwyrain Arabia a gyrru'r Sassaniaid allan. Daeth gwaith cloddio gan Amgueddfa Dubai yn ardal Al-Jumayra (Jumeirah) o hyd i sawl arteffact o gyfnod Umayyad.[16]

Ceir sôn cynnar am Dubai yn 1095 mewn llawysgrif a elwir yn Llyfr Daearyddiaeth gan y daearyddwr Andalusaidd-Arabaidd Abu Abdullah al-Bakri. Ymwelodd y masnachwr perlau Fenisaidd Gasparo Balbi â'r ardal ym 1580 a soniodd fod Dubai (Dibei) yn enwog am ei ddiwydiant perlau.[16]

Canfod olew

[golygu | golygu cod]

Ar ôl blynyddoedd o archwilio yn dilyn darganfyddiadau mawr yn Abu Dhabi cyfagos, darganfuwyd olew o'r diwedd, mewn dyfroedd tiriogaethol oddi ar Dubai ym 1966, er ei fod y maes cyntaf yn fychani. Enwyd y maes olew cyntaf yn 'Fateh' neu 'ffortiwn dda'. Arweiniodd hyn at gyflymu cynlluniau datblygu seilwaith Sheikh Rashid a ffyniant adeiladu a ddaeth â mewnlifiad enfawr o weithwyr tramor, yn bennaf Asiaid a'r Dwyrain Canol. Rhwng 1968 a 1975 tyfodd poblogaeth y ddinas dros 300%.[17]

Porthladd Jebel Ali; 2007

Fel rhan o'r isadeiledd ar gyfer pwmpio a chludo olew o faes olew Fateh, sydd wedi'i leoli ar y môr gyferbyn ardal Jebel Ali, adeiladwyd dau danc storio 500,000 galwyn, a elwir yn lleol yn 'Kazzans', trwy eu weldio gyda'i gilydd ar y traeth ac yna'u harnofio a'u gollwng ar wely'r môr ym maes Fateh.[18] Adeiladwyd y rhain gan y Chicago Bridge and Iron Company, a roddodd ei enw lleol i'r traeth (Traeth Chicago), a Gwesty'r Chicago Beach, a gafodd ei ddymchwel a'i ddisodli gan Westy'r Jumeirah Beach ddiwedd y 1990au. Roedd y Kazzans yn datrys y broblem o sut i storio olew mewn ffordd arloesol, a olygai y gallai llong-danceri enfawr angori ar y môr hyd yn oed mewn tywydd gwael ac osgoi'r angen i bibellau olew ar y tir o Fateh, sydd tua 60 milltir allan i'r môr.[19]

Roedd Dubai eisoes wedi cychwyn ar gyfnod o ddatblygu ac ehangu isadeiledd. Ond roedd y refeniw olew hwn, a oedd yn llifo o 1969 ymlaen, yn ysgogiad i gyfnod o dwf aruthrol, gyda Sheikh Rashid yn cychwyn ar bolisi o adeiladu seilwaith, isadeiledd ac economi fasnachu amrywiol cyn i gronfeydd wrth gefn cyfyngedig yr emirate gael eu disbyddu. Roedd olew yn cyfrif am 24% o'r CMC yn 1990, ond roedd wedi gostwng i 7% o'r CMC erbyn 2004.[20]

Yn hollbwysig, un o'r prosiectau mawr cyntaf i Sheikh Rashid gychwyn arno pan ddechreuodd y refeniw olew lifo oedd adeiladu Port Rashid, porthladd rhydd, dŵr-dwfn a adeiladwyd gan y cwmni Prydeinig Halcrow. Y bwriad gwreiddiol oedd bod yn borthladd pedair angorfa, cafodd ei ymestyn i un ar bymtheg angorfa. Roedd y prosiect yn llwyddiant ysgubol, gyda chiwio llongau i gael mynediad i'r cyfleusterau newydd. Cafodd y porthladd ei agor yn swyddogol ar 5 Hydref 1972, er bod ei angorfeydd i gyd yn cael eu defnyddio cyn gynted ag y cawsant eu hadeiladu. Ehangwyd Port Rashid ymhellach ym 1975 pan ychwanegwyd 35 angorfa arall, cyn i borthladd mwy Jebel Ali gael ei adeiladu.[20]

Dubai fodern

[golygu | golygu cod]

Yn ystod y 1970au, parhaodd Dubai i dyfu o refeniw a gynhyrchwyd o olew a masnach, hyd yn oed wrth i'r ddinas weld mewnlifiad o fewnfudwyr yn ffoi rhag rhyfel cartref Libanus.[21] Parhaodd anghydfod am y ffiniau rhwng yr emiradau hyd yn oed ar ôl ffurfio'r Emiradau Arabaidd Unedig; dim ond ym 1979 y daethpwyd i gyfaddawd ffurfiol a ddaeth a'r anghytundebau i ben.[22] Sefydlwyd porthladd Jebel Ali, porthladd dŵr dwfn a oedd yn caniatáu i longau mwy angori, ym 1979. Nid oedd y porthladd yn llwyddiant i ddechrau, felly sefydlodd Sheikh Mohammed y JAFZA (Parth Rhydd Jebel Ali) o amgylch y porthladd ym 1985.[23] Parhaodd maes awyr Dubai a'r diwydiant hedfan i dyfu hefyd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ https://www.dsc.gov.ae/en-us/Pages/default.aspx.
  2. ↑ "United Arab Emirates: metropolitan areas". World-gazetteer.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Awst 2009. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2009.
  3. ↑ The Government and Politics of the Middle East and North Africa. D Long, B Reich. p.157
  4. ↑ "Federal Supreme Council". uaecabinet.ae. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 25 Awst 2017.
  5. ↑ DiPaola, Anthony (28 Medi 2010). "Dubai gets 2% GDP from oil". Bloomberg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Hydref 2014.
  6. ↑ Oil share dips in Dubai GDP Archifwyd 26 Medi 2013 yn y Peiriant Wayback AMEInfo (9 Mehefin 2007) Retrieved on 15 Hydref 2007.
  7. ↑ Dubai economy set to treble by 2015 Archifwyd 3 Tachwedd 2014 yn y Peiriant Wayback ArabianBusiness.com (3 Chwefror 2007) Retrieved on 15 Hydref 2007.
  8. ↑ "Dubai diversifies out of oil". AMEInfo. 7 Medi 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Rhagfyr 2008. Cyrchwyd 12 Awst 2008.
  9. ↑ Cornock, Oliver. "Dubai must tap booming halal travel industry – Khaleej Times". khaleejtimes.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 December 2016. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2016.
  10. ↑ How did Dubai, Abu Dhabi and other cities get their names? Experts reveal all Archifwyd 2009-08-25 yn y Peiriant Wayback UAEInteract.com. Adalwyd 2007-05-10
  11. ↑ Weeks, Lloyd; Cable, Charlotte; Franke, Kristina; Newton, Claire; Karacic, Steven; Roberts, James; Stepanov, Ivan; David-Cuny, Hélène et al. (26 Ebrill 2017). "Recent archaeological research at Saruq al-Hadid, Dubai, UAE" (yn en). Arabian Archaeology and Epigraphy 28 (1): 39. doi:10.1111/aae.12082. ISSN 0905-7196.
  12. ↑ "Brushing off sands of time at the archaeological site of Saruq al-Hadid". The National (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 6 Medi 2018.
  13. ↑ "SHARP – the Saruq al-Hadid Archaeological Research Project". Research Plus (yn Saesneg). 3 Medi 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2018.
  14. ↑ "History and Traditions of the UAE" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 Mawrth 2009. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2009.
  15. ↑ Ibrahim Al Abed, Peter Hellyer (2001). United Arab Emirates: A perspective. Trident Press. ISBN 978-1-900724-47-0. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2009.
  16. 1 2 "The Coming of Islam and the Islamic Period in the UAE. King, Geoffrey R." (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 Ionawr 2013. Cyrchwyd 20 Ebrill 2013.
  17. ↑ "Historic population statistics" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 Mawrth 2009. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2009.
  18. ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  19. ↑ Donald., Hawley (1970). The Trucial States. London: Allen & Unwin. tt. 222. ISBN 978-0049530058. OCLC 152680.
  20. 1 2 Sampler & Eigner (2008). Sand to Silicon. UAE: Motivate. t. 11. ISBN 9781860632549.
  21. ↑ "Beirut Showing Signs of Recovery From Wounds of War". The New York Times. 26 Mai 1977. t.2
  22. ↑ Dubai. Carter, T and Dunston, L. Lonely Planet Publications
  23. ↑ "Free Zones in the UAE". uaefreezones.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Chwefror 2010. Cyrchwyd 23 Ebrill 2010.