Athroniaeth ddadansoddol
Gwedd
| Enghraifft o: | mudiad athronyddol |
|---|---|
| Math | athroniaeth y Gorllewin |
| Yn cynnwys | Positifiaeth resymegol, ordinary language philosophy |
| Sylfaenydd | Gottlob Frege, Bertrand Russell, G. E. Moore, Ludwig Wittgenstein |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01500j |
| Thesawrws y BNCF | 18345 |
| Quora | Analytic-philosophy |
Athroniaeth sy'n pwysleisio iaith a rhesymeg wrth ddadansoddi cysyniadau yw athroniaeth ddadansoddol. Gall y term gyfeirio'n fwy penodol at fudiad amlwg yn athroniaeth y gwledydd Saesneg eu hiaith ac yn Llychlyn a darddodd o'r traddodiad empiraidd. Datblygodd sawl system athronyddol dadansoddol yn yr 20g, gan gynnwys atomiaeth resymegol, positifiaeth resymegol, a dadansoddiad iaith gyffredin.
Fe'i chyferbynnir yn ei hanfod ag athroniaeth ddamcaniaethol a metaffiseg, ac fel mudiad neu gylch o ysgolion meddwl fe'i chyferbynnir ag athroniaethau cyfandirol megis ffenomenoleg a dirfodaeth.