Neidio i'r cynnwys

Acsolotl

Oddi ar Wicipedia
Acsolotl
Enghraifft o:tacson, organeb model Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonAmbystoma Edit this on Wikidata
Hyd18 modfedd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01j6xr edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Axolotl
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Amphibia
Urdd: Caudata
Teulu: Ambystomatidae
Genws: Ambystoma
Rhywogaeth: A. mexicanum
Enw deuenwol
Ambystoma mexicanum
Shaw, 1789

Amffibiad sy'n tarddu o nifer o lynoedd, megis Llyn Xochimilco ger Dinas Mecsico, yw'r acsolotl (o Nahwatleg āxōlōtl [aːˈʃoːloːtɬ] o ātl "dŵr" a xōlōtl "un llithrig neu grychiog, gwas"). Salamandr neotenig ydyw, sy'n perthyn i'r salamadr teigr,[1][2] ac mae'n anarferol ymhlith amffibiaid gan eu bod yn troi'n oedolion heb fynd trwy fetamorffosis. Yn lle datbylgu ysgyfaint a mynd ar y tir, maent yn aros yn dŵr gyda'u tagellau.

Yn 2010, roedd acsolotod gwyllt ar eu ffordd i ddifodiant[3] oherwydd twf Dinas Mecsico a'r llygredd dŵr sy'n dod o hyn, yn ogystal â bygythiad rhywogaethau goresgynnol megis tilapiaid a draenogiaid. Fe'u rhestri gan y CITES fel rhywogaeth mewn pergyl a chan yr IUCN fel rhywogaeth mewn perygl argyfyngus yn y gwyllt, â phoblogaeth sy'n lleihau. Defnyddir acsolotod yn helaeth mewn ymchwil wyddonol oherwydd eu gallu i aildyfu aelodau'r corff.[4] Yn y gorffennol, bu i acsolotod gael eu gwerthu fel bwyd ym marchnadoedd Mecsico an un o brif fwyddydd yr Asteciaid oeddynt.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Mexican Walking Fish, Axolotls Ambystoma mexicanum" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 15 Mawrth 2018.
  2. ↑ "Axolotols (Walking Fish)". Aquarium Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Ebrill 2013. Cyrchwyd 2013-09-12.
  3. ↑ Matt Walker (2009-08-26). "Axolotl verges on wild extinction". BBC. Cyrchwyd 2010-06-28.
  4. ↑ Weird Creatures with Nick Baker (Television series). Dartmoor, England, U.K.: The Science Channel. 2009-11-11. Event occurs at 00:25.
  5. ↑ "Mythic Salamander Faces Crucial Test: Survival in the Wild". The New York Times. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2015.
Eginyn erthygl sydd uchod am amffibiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.