Neidio i'r cynnwys

Gareth F. Williams

Oddi ar Wicipedia

Awdur oedd Gareth F. Williams (9 Chwefror 1955 – 14 Medi 2016). Ganwyd ym Mhorthmadog a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Eifion Wyn, Ysgol Eifionydd, Porthmadog, Coleg y Brifysgol, Bangor a Choleg Cartrefle, Wrecsam.

Roedd yn gyfrifol am gyd-greu cyfresi drama ar S4C, fel Pengelli a Rownd a Rownd.

Roedd yn un o'r tri oedd ar y panel ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy ym mis Awst 2016. Bu farw yn 61 oed ym mis Medi 2016.[1]

Llyfryddiaeth

Llyfrau Plant

  • Cyfres Di-Ben-Draw:Uned III - Ysgrifennu a Darllen, Ionawr 1993, (BBC)
  • Dirgelwch Loch Ness, Hydref 1996, (Y Lolfa)
  • O Ddawns i Ddawns, Rhagfyr 1996, (Y Lolfa)
  • Cyfres Cled: Pen Cyrliog a Sbectol Sgwâr, Awst 1999, (Y Lolfa)
  • Jara, Mawrth 2004, (Gwasg Gomer)
  • Cyfres Lleisiau: Dial, Mawrth 2006, (CAA)
  • Cyfres Whap!: Adref heb Elin, Mawrth 2006, (Gwasg Gomer)
  • Cyfres Tonic 5: Y Sifft Nos, Mehefin 2007, (CAA)
  • Cyfres Tonic 5: Bethan am Byth, Mehefin 2007, (CAA)
  • Nadolig Gwyn, Hydref 2007, (Gwasg Gomer)

Llyfrau Oedolion

  • Cyfres Stori Sydyn: Tacsi i'r Tywyllwch, Chwefror 2007, (Y Lolfa)
  • Dyfi Jyncshiyn: Y Dyn Blin, Tachwedd 2007, (Gwasg Gomer)
  • Awst Yn Anogia. Chwefror 2016. ([Y Lolfa])

Gwobrau ac Anrhydeddau

Cyfeiriadau

  1. ↑ Yr awdur Gareth F Williams wedi marw , BBC Cymru Fyw, 14 Medi 2016.

Dolenni Allanol